Newyddion

Ysgolhaig Crwydriaid Coleg Cambria yn creu hanes yn Uwch Gynghrair Cymru

February 7, 2017

conor-and-alex-thomas

Llwyddodd , Conor Harwood sy’n Ysgolhaig Coleg Cambria a’r Crwydriaid i greu hanes yn Uwch Gynghrair Cymru Ddydd San Steffan 2016 pan ddaeth yn chwaraewr cyntaf y Mileniwm newydd i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae Conor, sy’n 16 oed yn dod o Ellesmere Port yn astudio Mathemateg, Ffiseg a Thechnoleg Gwybodaeth yng Nghanolfan Chweched Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria. Mae hefyd yn ymosodwr i Gap Cei Connah , gan yn ymuno â charfan dan 15 oed Academi’r Crwydriaid 3 blynedd yn ôl. Roedd yn un o ddau chwaraewr a anwyd yn y Mileniwm newydd a ymddangosodd yn eu perfformiadau cynghrair cyntaf ar yr un diwrnod, gyda Conor yn chwarae am y tro cyntaf tua 80 munud cyn y chwaraewr arall, ac felly’n llwyddo i gael ei enw yn llyfr cofnodi recordiau’r Gynghrair.

Roedd Conor, a gafodd ei eni ar 2 Chwefror 2000 yn eilydd yn yr 88fed munud yn erbyn Airbus wrth i’r Crwydriaid eu curo 3-0, a dywedodd:

“Rwy’n falch iawn o’r llwyddiant hwn ac rwy’n hapus gyda’r cynnydd dwi wedi’i wneud mewn pêl-droed.”

Dywedodd Alex Thomas, Pennaeth Canolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy hefyd:

“Mae Conor yn un o’n llwyddiannau academaidd a llwyddiannau yn myd chwaraeon hefyd ac mae ganddo ddyfodol disglair o’i flaen. Hoffem ei longyfarch ar fod yn chwaraewr cyntaf y Mileniwm newydd i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.”