Newyddion

Cogydd sy’n gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Iâl yn Agor Bwyty yn Ardal Llundain

February 29, 2012

Ymhyfryda Goleg Iâl yn natblygiad ei gyn-ddysgwr ar gyrsiau Lefelau 1 a 2 mewn Coginio Proffesiynol, Luke Thomas, a fydd yn agor ei fwyty ei hun yr wythnos nesaf.

Dethlir llwyddiant Luke, sy’n 18 oed, yng Ngholeg Iâl wrth iddo agor bwyty gyda lle i 45 o bobl yn Sanctum on the Green ym Merkshire. Cydnabyddir cyn-fyfyriwr Coleg Iâl ac enillydd cystadleuaeth FutureChef yn helaeth mewn cylchoedd coginiol arbenigol ac edrycha’r Coleg ymlaen at gydweithio’n agos gyda fo yn y dyfodol er mwyn datblygu dysgwyr presennol y Coleg.

“Mae Luke yn llawn haeddu ei lwyddiant,” meddai Mark Parsons, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Iâl. “Edrychwn ymlaen at weld ein myfyrwyr yn cael eu hysbrydoli gan Luke yn y dyfodol.”