Newyddion

Coleg Iâl yn Cefnogi CPD Wrecsam

March 22, 2013

Mae cefnogwyr pêl-droed Coleg Iâl yn dathlu llwyddiant CPD Wrecsam yn chwarae yn Wembley’r Sul hwn.

Ymgasglodd y Pennaeth, Jasbir Dhesi, y myfyrwyr at ei gilydd i ddangos eu cefnogaeth i glwb pêl-droed lleol Wrecsam a fydd yn chwarae yn erbyn Grimsby Town yn rownd derfynol Tlws yr FA y penwythnos hwn.

Gorymdeithiodd myfyriwr Safon Uwch Coleg Iâl, Chiquita-Dee Williams gyda masgot clwb pêl-droed y dref a’i chyd-gefnogwr a myfyriwr gwasanaethau cyhoeddus Ollie Williams i ddathlu ymweliad cyntaf y clwb pêl-droed â Wembley.

Gan drafod tactegau gyda’r chwaraewyr a ddaeth i Ddôl yr Eryrod y bore ’ma, mae’r criw yn awyddus iawn i’w cefnogi. Dywedodd Ollie a Chiquita ar fyrder fod y nwyddau sy’n cael eu gwerthu yn siop cefnogwyr CPD Wrecsam yn mynd i gyllid y clwb.

“Rydym yn awyddus i gefnogi’r Clwb a dymunwn bob llwyddiant iddynt,” meddai’r Pennaeth, Dhesi, gyda chefnogwyr Coleg Iâl.