Newyddion

Naid Cambria dros elusen

March 1, 2016

A level students Sioned, Becky & Leah - Balloon selling

Gwnaeth staff a myfyrwyr Coleg Cambria ddefnyddio’r diwrnod naid ychwanegol heddiw i godi arian ar gyfer Cymorth Canser Macmillan.

Gwelodd y diwrnod naid fyfyrwyr ar safleoedd Iâl a Bers y coleg yn cymryd llawer o’u gweithgareddau codi arian i mewn i ganol tref Wrecsam. Gwnaethant ganu a dawnsio yn ystod ‘Flash Mob’ yn Nôl yr Eryrod , gwneud pizzas, gwerthu balŵns a phlanwyr pren yn Sgwâr y Frenhines yn ogystal ag addurno coed yno gyda ffabrigau gwyrdd i godi ymwybyddiaeth am y diwrnod.

Yn ôl yn safleoedd y coleg, cafwyd marathon beicio yn y Bers a pherfformiad teyrnged Bowie a sesiwn canu stryd arbennig yn Theatr Iâl.

“Rydym yn falch iawn bod y digwyddiad heddiw wedi bod mor llwyddiannus,” meddai Karen Senior, Rheolwr Gwasanaeth i Fyfyrwyr yn y coleg. “Rydym wedi cael diwrnod bendigedig a gobeithio y byddwn wedi codi swm mawr o arian ar gyfer Cymorth Canser Macmillan.”

Tree Hugging - Becky Whitby, Chloe Robertson, Abigail Fairclough, Angharad Matthias and Laura Knox.

Cambria Flash Mob EM

Bersham student Kieran Foulkes with tutor

Bowie Busk Yale site