Newyddion

Myfyrwyr yn Perfformio yn y Digwyddiad Goleuadau Nadolig

November 22, 2016

CxfiYhoWQAAevlj (2)

Bu myfyrwyr Coleg Cambria  yn perfformio’n ddiweddar yn nigwyddiad troi’r goleuadau Nadolig ymlaen yng nghanol y dref. ’ Frosty the Snowman’

Perfformiodd myfyrwyr Diploma Estynedig Lefel 3 Celfyddydau Perfformio ddarn o goreograffi i’r clasur o gân ’Frosty the Snowman’ yn y digwyddiad yn Wrecsam eleni.

Cafodd canol tref Wrecsam ei drawsnewid i fod yn wlad hud a lledrith aeafol gyda llwyfan mawr ar gyfer adloniant byw, gorymdaith llusernau trwy ganol y dref, reidiau ffair, stondinau nadoligaidd, Siôn Corn a llawer rhagor.

Ymunodd  Ricky Rayment, seren y rhaglen The Only Way is Essex â myfyrwyr Coleg Cambria gam adael chwarae Prince Charming yn ‘Cinderella’, dros dro i gynnau’r goleuadau.

O ganlyniad i berfformiad y myfyrwyr, derbyniodd y coleg gyfraniad yn ddiolchgar tuag at ein helusen y flwyddyn sef Ambiwlans Awyr Cymru.