Newyddion

Myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwerthu Pabïau

November 27, 2013

DSC_0210

Mae myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus safleoedd Glannau Dyfrdwy ac Iâl Parc y Gelli wedi treulio’r wythnos ddiwethaf yn codi arian ar gyfer Y Lleng Prydeinig Brenhinol.

Bu myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus safle Iâl Parc y Gelli yn gwerthu pabïau o amgylch y coleg ac mewn lleoliadau gwahanol yn Wrecsam.

Bu myfyrwyr Glannau Dyfrdwy yn gwerthu pabïau a chodi ymwybyddiaeth am waith Y Lleng Prydeinig Brenhinol yng Nghei Connah, Shotton a Queensferry.

Dywedodd Vanessa Griffiths Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Cambria “Mae hon yn wythnos bwysig i’n myfyrwyr gan ei fod yn gwella eu gwybodaeth ynghylch rôl Y Lleng Prydeinig Brenhinol a’r angen i barhau i godi arian i gefnogi’r  cyn-filwyr a’r rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd”

Bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan hefyd mewn dau funud o dawelwch.

Tags: ,