Newyddion

Myfyriwr o Goleg Cambria yn Nhîm Dadlau Cymru

December 19, 2013

euan-debating-767x999

Llwyddodd myfyriwr yng Ngholeg Cambria, Iâl Parc y Gelli i ennill lle iddo’i hun yn Nhîm Dadlau Cymru.

Cystadlodd Euan McGivern, (sy’n 16 oed ac sy’n dod o Wrecsam) yn erbyn 25 o bobl ifanc eraill yng Nghaerdydd am le yn y tîm cenedlaethol yn ddiweddar.

Bydd Tîm Dadlau Cymru yn cystadlu yn y Bencampwriaeth Dadlau Ryngwladol ym mis Awst nesaf yng Ngwlad Thai.

Dywedodd Pam Rigby, Cydlynydd Gwaith Ieuenctid Coleg Cambria: “Ni allwn fod yn fwy balch drosto.  Mae’n bendant yn haeddu’r cyfle hwn, a chyda’i sgiliau dadlau ardderchog rwy’n siŵr y bydd gan Gymru gyfle da yn y gystadleuaeth.  Da iawn ti Euan.”

Tags: