Newyddion

Llwyddiant yn Sioe Dinbych a Fflint

September 3, 2013

Image-14

Daeth haf prysur llawn digwyddiadau Coleg Cambria i ben yn ddiweddar gyda’r Sioe boblogaidd, Dinbych a Fflint.

Heidiodd y torfeydd i stondin Coleg Cambria lle cynhaliwyd nifer o weithgareddau yn cynnwys lluniau gyda Derek y ceffyl, gweithgareddau crefft, her nytiau a bolltau, a godro Ceridwen y fuwch a brofodd yn boblogaidd dros ben.

Roedd y sioe yn gyfle da i’r coleg godi ymwybyddiaeth ynghylch yr uniad diweddar rhwng Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl i greu Coleg Cambria, ac yn gyfle i hefyd lansio’r Prentisiaethau Amaeth.

Dywedodd Amy Dutton, Asesydd Cymwysterau Tir-seiliedig yn y coleg:

“Roedd y tîm wrth eu bodd gyda’r ymateb a gafwyd yn Sioe Dinbych a Fflint. Bu i ni wneud llawer o gysylltiadau newydd a ffurfio cysylltiadau busnes da. Rydym bob amser yn chwilio am ddysgwyr newydd, ac wedi cyffroi gyda safon y darpar fyfyrwyr hyd yma.”

Tags: ,