Rhyngwladol

Mae Coleg Cambria yn croesawu myfyrwyr tramor yn gynnes, gan gynnig dewis o gyrsiau i fynd ymlaen i brifysgol neu waith, mewn amgylchfyd cyfeillgar a chefnogol.

Rydym yn goleg DU sydd wedi hen sefydlu ei hun ac rydym wedi arbenigo ym myd addysg bellach ers dros 60 mlynedd. Rydym yn falch iawn o’r canlyniadau ardderchog mae ein myfyrwyr yn llwyddo i’w cyflawni, a’r amgylchfyd dysgu a’r gefnogaeth o’r radd flaenaf rydym yn ei ddarparu i’n myfyrwyr.

Mae digon o gyrsiau i ddewis ohonynt a byddwch yn cael profiad cyffredinol o Brydain wrth astudio yma, o fod yn aros gyda theulu Prydeinig i gael gweld golygfeydd Prydain. Bydd hyn i gyd yn eich helpu i wella eich gwybodaeth am Brydain, ei hieithoedd a’i diwylliant a pherffeithio eich Saesneg llafar.

Yn ogystal â darparu ar gyfer unigolion, y mae llawer ohonynt yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ac addysg uwch, rydym yn cynnig nifer o ddewisiadau i grwpiau o fyfyrwyr o ysgolion i fwynhau arhosiad byrrach gyda ni i astudio ac i wella eu Saesneg.

Pam astudio yma?

Tiwtoriaid profiadol, gyda chymwysterau uchel ac ymroddiad 100%.

Y dewis ac ystod gorau o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd.

Campysau digidol - y dechnoleg ddiweddaraf i wella eich profiad dysgu.

Cyfleusterau o’r radd flaenaf - gan gynnwys chwaraeon, gwyddoniaeth, celfyddydau a thechnoleg.

Cyfle i gael profiad gwaith go iawn trwy ein cysylltiadau â busnesau a diwydiannau lleol.

Cymorth gydag astudio - gosod targedau a thiwtor personol i’ch help i gyflawni eich gorau glas!

Gwasanaeth 'cyfarfod a chyfarch’ am ddim o feysydd awyr a gorsafoedd bysiau lleol.

Cludiant am ddim i’ch llety neu i’r cartref y byddwch yn aros ynddo.

Costau byw - ymhlith yr isaf yn y DU.

Barn Myfyriwr

Mandy Huang

O: China
Yn astudio: Cwrs Dwys Saesneg fel Iaith Dramor (EFL)

Rwy’n hoffi’r athrawon yng Ngholeg Cambria yn fawr iawn oherwydd eu bod yn garedig ac yn gymwynasgar iawn. Mae cymaint o ffyrdd diddorol i ddysgu mewn dosbarth.